Thursday, September 16, 2021

Cân i Gymru by Datblygu lyrics

Cân i Gymru

Datblygu

GENRE
Gradd da yn y Gymraeg
Ar y Volvo bathodyn Tafod y Ddraig
Hoff o fynychu pwyllgorau blinedig
Am ddyfodol yr iaith yn enwedig

Meistroli iaith lleiafrifol fel hobi
Platiau dwyieithog i helpu'r gyrru
Agwedd cwbl addas ar gyfer cynllun catrte
Sydd mas o set *Dinas*

Wastad yn mynd i Lydaw
Byth yn mynd i Ffrainc
Wastad yn mynd i Wlad y Basg
Byth yn mynd i Sbaen

Fin nos yn mynychu bwytai
Wedi dydd ar y prosesydd geiriau
Mewn swydd sy'n talu'r morgaits
I'ch gwyneb person cwbl cwrtais

O'r ysgol feithrin i brifysgol Cymru
Tocyn oes ar y trên grefi
Byddai'n well da fi fod yn jynci
Na bod mor wyrdd â phoster Plaid Cymru

Darnau gosod yr Ŵyl Gerdd Dant
A holl broblemau'r ddau o blant
Gwersi telyn a Llinos Wyn
A phroblem acne Llywarch Glyn

Heb anghofio codi stŵr
Am straen angheuol job y gŵr
Mae'n gorfod gweithio 1:00 tan 3:00
Yn gynhyrchydd BBC

Llosgwch eich tafodau ar eich panedi piwritanaidd
Collwch eich dynoliaeth mewn economeg academaidd
Enwch gyfeillion sy'n enwogion i gyd o Seiri Rhyddion
Trafodwch tapiau corau meibion a'r eitemau ar *Hel Straeon*

Rhifau cynulleidfa'r oedfa
Pha liw lenni'r lolfa
Tiwtoriaid preifat i helpu'r plant
Yn Neuadd Dewi Sant

Digon o wyliau i gynnal lliw haul
Digon wrth Brydeinig i swnio fel *Sieg Heil*

Meistroli iaith leiafrifol fel hobi
Dweud fod Cymru'n cael ei orthrymu
Er fod eich ceir â'r sticyrs Tafod y Ddraig
Achos gradd da yn y Gymraeg

Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Yn eich Volvos bathodyn Tafod y Ddraig

Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg

Gradd da yn y Gymraeg
Ar y volvo

Bla bla bla that’s done

Related songs

Whising WellGhost Monroe It's Ladybug! [feat. Nathan Sharp ]Cristina Vee SituationMonster Magnet Air It OutWacotron My SongMaddie Rey Here is Beautiful Shalmali & Sunidhi Chauhan NO.6ACIDMAN POISED!Ross Sauce Wake UpClaptone & James Vincent McMorrow NocR. [Nów]

No comments:

Post a Comment

Without Me by KIDZ BOP Kids lyrics

Without Me ...